Mynd ati i gofnodi englynion cerrig beddi

Mae yna ymgyrch wedi dechrau i greu cofnod o'r holl englynion sydd i'w gweld ar gerrig beddi yng Nghymru a thu hwnt.

Y gred yw bod dros 20,000 ohonynt.

Mae'r ymgyrchwyr yn paratoi i wneud cais am arian cyhoeddus i sicrhau fod yr englynion yn cael eu rhoi ar gof a chadw.

Adroddiad Sion Tecwyn.