Cefnogwyr Bangor i sefydlu clwb newydd

Mae rhai o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi cytuno i sefydlu clwb newydd.

Mae Bangor, wnaeth syrthio o Uwch Gynghrair Cymru y llynedd, yn wynebu trafferthion ariannol gyda biliau heb eu talu a chwaraewyr heb dderbyn eu cyflogau.

Mewn cyfarfod arbennig o gefnogwyr y clwb nos Fercher gwnaed penderfyniad i sefydlu clwb newydd.

Ar ôl y cyfarfod fe wnaeth Newyddion 9 holi Dafydd Hughes, aelod o Bwyllgor Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Bangor.