'Rhaid cydnabod gwerth y pyllau glo'
Mae hen domenni gwastraff pyllau glo de Cymru wedi datblygu'n "hafan hollbwysig" ar gyfer pryfed prin, yn ôl astudiaeth newydd.
Ymhlith y 901 o rywogaethau a gofnodwyd, roedd bron i 200 dan fygythiad.
Cafodd sawl pryfyn sy'n newydd i Brydain eu darganfod hefyd - gan gynnwys 'Bwystfil Beddau', neidr filtroed gwyn.
Mae'r ymchwilwyr yn galw am warchod y safleoedd, sy'n aml yn cael eu hystyried fel tir i'w datblygu.
Disgrifiodd swyddog cadwraeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Mike Webb y casgliadau fel rhai "hynod gyffrous".