Galw cynyddol am gymorth gan fanciau bwyd 'yn broblem'

Mae nifer y rhai sy'n cael eu cyfeirio at fanciau bwyd wedi pasio 100,000 yng Nghymru am y tro cyntaf, yn ôl elusen Ymddiriedolaeth Trussell.

Dywed yr elusen bod bron i draean o'r rhai sydd wedi cael eu cyfeirio wedi codi am fod budd-daliadau ddim yn ddigon i bobl allu talu eu costau byw o ddydd i ddydd.

Yn y pum mlynedd diwethaf, mae'r elusen wedi gweld cynnydd o 43% yn nifer y pecynnau bwyd sy'n cael eu darparu - a chynnydd o 15% yn y pecynnau bwyd brys i blant yn y flwyddyn diwethaf.

Ers dechrau gwirfoddoli ym Manc Bwyd Y Drenewydd dair blynedd yn ôl, mae Liz Casey wedi delio â theuluoedd "o wahanol gefndiroedd" sy'n cael trafferth ymdopi â'u biliau - hyd yn oed os yw o leiaf un rhiant mewn gwaith.