Cynnal gwersi CPR heb fod 'yn anodd'
Mae'r gweinidog addysg wedi gwrthod galwad i gyflwyno gwersi CPR gorfodol fel rhan o'r cwricwlwm Cymraeg newydd.
Mae British Heart Foundation Cymru yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno gwersi sgiliau dadebru brys ym mhob ysgol.
Dywedodd Carys Amos, dirprwy brifathrawes Ysgol Gyfun Garth Olwg bod cynnal gwersi CPS heb fod "yn anodd" yn yr ysgol.
"Mae o er budd pawb, 'dydw i ddim yn gallu fel bod unrhyw un yn gallu dadlau yn erbyn rhoi'r ddarpariaeth o'r math yma ar gwricwlwm unrhyw ysgol yn y dyddiau sydd ohoni," meddai.
Fe fydd Kirsty Williams yn cyhoeddi yfory ei bod yn gwrthod cyflwyno gwersi CPR gorfodol.