Cwm Taf: Profiad mam yn achos pryder
Mae achos Sarah Handy yn un o'r rhai sy'n cael sylw gan adroddiad beirniadol o wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Roedd hi mewn poen ac yn pledio i weld meddyg pan aeth i'r ysbyty yn 2017. Cafodd ei gadael am dair awr heb archwiliad, ac yna ei hysbysu ei bod hi yn rhwym.
Cafodd Ms Handy, 33 oed, ei hanfon adref i Ferthyr gyda lacsatifs a thabledi lladd poen.
Y noson honno cafodd ei babi Jennifer ei genni'n gynnar gan ei gŵr a'i mam yng nghyfraith, ac er gwaethaf ymdrechion i roi CPR, bu farw'r babi.
Dywed Ms Handy y byddai rhoi ychydig mwy o sylw wedi gallu gwneud gwahaniaeth aruthrol.