Clwb pêl-droed i blant awtistig yn 'bwysig iawn'
Mae Academi Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD) Cwm Wanderers yn gobeithio codi £500,000 mewn blwyddyn i ddatblygu ei faes ymarfer er mwyn treblu mewn maint.
Ar hyn o bryd, mae ganddyn nhw 60 o blant a phobl ifanc awtistig ar y rhestr aros i ymuno.
Maen nhw'n hyfforddi 30 o blant a phobl ifanc rhwng pump a 18 oed o bob cwr o dde Cymru yn wythnosol.
Dywedodd sylfaenydd y clwb, Andrea Smith, y byddai datblygiad o'r fath yn "newid bywydau'r teuluoedd a'r plant sy'n dod i'r academi".