Pryder am dorri coed ar lan Llyn Tegid yn Y Bala

Ar lan Llyn Tegid mae 'na ffrae am dorri coed wrth i'r arglawdd gael ei adnewyddu.

Wrth wneud gwaith pwysig i atal Y Bala rhag llifogydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n mynnu na fydd coed hynafol yn cael eu tynnu o'r llawr.

Bydd y corff amgylcheddol yn cynnal ymgynghoriad ar eu cynlluniau nes diwedd y flwyddyn, gyda'r nod o ddechrau ar y gwaith o gryfhau'r arglawdd y flwyddyn nesaf.