Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol 'ddim yn cyflawni' ei phwrpas

Mae deddf sy'n ceisio sicrhau "datblygiad cynaliadwy" gan gyrff cyhoeddus "bron yn ddiwerth", yn ôl bargyfreithiwr.

Daw ar ôl i ymgais i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, dolen allanol i atal cau ysgol ym mis Mawrth fethu.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, yn dweud nad yw'r ddeddf yn cyflawni ei phwrpas.