Y cynllun sy'n gwarchod pobl â dementia sy'n mynd ar goll

Ers rhai misoedd bellach mae trefniant newydd wedi bod ar waith yn y gogledd i geisio gwarchod pobl sy'n byw â dementia - a'i gwneud hi'n haws i gael hyd iddyn nhw pan fydd awydd i grwydro.

Erbyn hyn, mae modd i'r holl wybodaeth berthnasol gael ei rhoi ar ffurflen - a honno ar gael i'r heddlu ar unwaith os bydd pobl ar goll.