Cyflwr seliag: 'Un gronyn yn gallu effeithio arna i'
Mae'r farchnad am fwydydd arbenigol - bwydydd heb gynhwysion sy'n gwneud rhai pobl yn sâl - wedi tyfu'n sylweddol yng Nghymru.
Roedd cynnydd o 44% i £62.3m rhwng mis Chwefror 2017 a 2018, yn ôl dadansoddwr manwerthu Kantar Worldpanel.
Bwydydd heb glwten yw'r cynnyrch mwyaf poblogaidd o'u plith yn ôl elusen Coeliac UK.
Mae gan y chwiorydd Cerys a Cadi Davage o Gaerdydd glefyd seliag ac felly'n gorfod osgoi glwten, sy'n bresennol mewn bara a grawnfwydydd eraill.
Er y cynnydd yn y farchnad bwydydd arbenigol, dywedodd Cerys fod nifer yn gwneud y camgymeriad mai alergedd yw cyflwr seliag.