'Dawnsio stryd yn datblygu fy hyder'

Mae dosbarthiadau mewn canolfan gymunedol yn y Rhondda yn cael eu cynnal gan gwmni theatrig Avant Cymru.

Mae'r grŵp, sydd ag aelodau gwrywaidd a benywaidd rhwng saith a 45 oed yn helpu eraill gyda nifer o broblemau gan greu awyrgylch lle mae modd siarad, dawnsio a theimlo'n rhan o gymuned.

Mae'r cwmni'n cynnal sioeau rheolaidd ac mae'r Samariaid yn mynd yno i helpu unrhyw un a allai gael ei effeithio gan y pynciau sy'n cael eu harchwilio trwy ddawns a rap.

Un sy'n mynd i'r sesiynau dawns er mwyn pleser yn unig yw Kai Easter, 13 oed sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Garth Olwg.