Mark Drakeford: Arian ymchwiliad M4 'ddim yn wastraff'

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cefnu ar gynlluniau £1.6bn ar gyfer ffordd liniaru'r M4.

Yn ôl Mark Drakeford byddai'r cynllun yn cael "effaith andwyol sylweddol" ar fywyd gwyllt yn ardal Gwastadeddau Gwent.

Y gred yw bod o leiaf £44m wedi cael ei wario ar gostau datblygu'r cynllun a'r ymchwiliad, ond mynnodd Mr Drakeford nad yw'r swm hynny'n wastraff.

Dywedodd wrth BBC Cymru bod yr arian wedi'i wario ar gynnwys cynifer o bobl â phosib yn y penderfyniad.