Yr anthem yn 'emosiynol' i ffoadur ddaeth i Gymru

Fe wnaeth Joseph Gnagbo ffoi o Affrica pan oedd ei fywyd mewn perygl gan adael ei blant, ei deulu a'i famwlad.

15 mis ar ôl cael lloches yng Nghymru mae'n siarad Cymraeg ac yn gwirfoddoli efo Cymdeithas yr Iaith.

"Mae rhai pobl yn meddwl bod Cymraeg yn rhy anodd, dwi'n gallu dweud dyw Cymraeg ddim yn hawdd ond dwi'n meddwl mae'n bosib. Rhaid dysgu'r iaith," meddai.

Nawr mae ei stori yn cael ei hadrodd mewn arddangosfa yng Nghanolfan y Mileniwm sy'n olrhain hanes unigolion sydd wedi eu herlid o'u gwlad.