Gofal llygaid yn 'warthus' yng Nghymru
Mae Gordon Harris o Geredigion yn byw â retinopathi diabetig, cyflwr sy'n effeithio ar ansawdd ei olwg.
Dechreuodd golli ei olwg dros 20 mlynedd yn ôl, ac mae bellach yn hollol ddall yn ei lygad chwith a'n rhannol ddall yn y dde.
Yn ôl Mr Harris, fe ddylai gael ei weld "pob chwe mis, ond fi heb gael fy ngweld ers dwy flynedd".
Mae bron i 35,000 o bobl sydd mewn perygl o golli eu golwg yn aros yn rhy hir am ofal llygaid, yn ôl ystadegau newydd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r llywodraeth wedi cyflwyno targed newydd gyda'r nod o sicrhau fod cleifion sydd â'r cyflyrau mwyaf difrifol yn cael eu trin yn gynt.