Pwysigrwydd defnyddio canolfannau Cymru
Mae elusen iechyd meddwl a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dweud bod byrddau iechyd Cymru'n danfon cleifion i Loegr i gael triniaeth iechyd meddwl, er bod yna welyau ar eu cyfer yng Nghymru.
Yn ôl rheolwyr elusen Hafal mae canolfan yng Nghwm Tawe ond yn hanner llawn ers ei hagor ddwy flynedd yn ôl, ac maen nhw'n ystyried derbyn cleifion o Lundain er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd.
Dywed Llywodraeth Cymru bod yna ymroddiad i drin cleifion mor agos i'w cartrefi â phosib, ond rhaid darparu gofal mewn rhai achosion mewn "canolfannau arbenigol iawn yn Lloegr".
Mae'r sefyllfa'n annerbyniol, yn ôl Mair Elliott a gafodd ei danfon o'i chartref yn Hwlffordd i Lundain am ofal iechyd meddwl dwys yn 2013 pan oedd ond yn 16 oed.
Fe dreuliodd bedwar mis yn yr ysbyty ac mae'n canmol y gofal a gafodd yno, ond bu'n rhaid i'r rhieni ddefnyddio'u cynilion er mwyn ymweld â hi.
"Ro'n i mewn gymaint o boen a gofid [oherwydd amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl] ro'n i eisiau rhoi diwedd i'r cyfan. Ar ben hynny ro'n i wedi fy anfon oddi cartref am gyfnod amhenodol.
"Ro'n i'n 16 oed, yn sâl eithriadol, ac yn ofn iawn, iawn."
Ychwanegodd: "Os mae'r gwasanaethau yna - os ni'n cael rhywbeth fel yr uned yng Nghwm Tawe, pam lai defnyddio fe?
"Mae'n rhaid i ni ddechra dod â pobol yn ôl i Gymru. Os 'da ni ddim, pam? Dyw e ddim yn neud unrhyw synnwyr."