'Y frenhiniaeth ddim yn perthyn i ni' yng Nghymru

Mae'n 50 mlynedd ers arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon ac er bod rhai yn gweld gwerth yn rôl Tywysog Cymru ac yn canmol gwaith Ymddiriedolaeth y Tywysog, mae arbenigwr gwleidyddol yn dweud y byddai unrhyw ddigwyddiad arall o'r fath yn y dyfodol yn "achosi rhaniadau mawr".

Pe bai Charles yn dod yn frenin, y Tywysog William fyddai'n debygol o fod yn dywysog nesaf Cymru pe bai penderfyniad i barhau â'r rôl.

Yn ôl yr Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru gallai seremoni debyg i'r un a welwyd yn 1969 agor trafodaeth am rôl y frenhiniaeth yng Nghymru.

Mae AC Plaid Cymru, Bethan Sayed yn cytuno y byddai arwisgiad tebyg i'r un yn 1969 yn ddadleuol, gan ddweud y byddai hi'n rhagweld protestiadau fel y rheiny hanner canrif yn ôl.

Ychwanegodd ei bod o'r farn "nad yw'r frenhiniaeth yn rhywbeth sy'n perthyn i ni yn ein cymdeithas heddiw a bod angen symud ymlaen o'r traddodiadau hynny".