'Dim digon o gymorth' i deuluoedd galar medd un fam

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru yn dweud bod yna le i ehangu'r gefnogaeth i deuluoedd sydd wedi colli eu hannwyliaid yn annisgwyl.

Yn ôl y corff os nad oes yna ddigon o gefnogaeth ar gael gallai gael effaith andwyol ar y rhai sy'n galaru.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad i wasanaethau galar sy'n cael eu darparu yng Nghymru.

Yn 2016 bu farw mab Sharon Marie-Jones, Ned oedd yn bump oed mewn damwain car.

Mae Sharon Marie-Jones yn dweud y byddai wedi hoffi cael rhywun i'w cyfeirio nhw at y cymorth oedd ar gael.