Ymgeiswyr yn addo arian cyfatebol
Mae'r ddau ymgeisydd yn y ras i arwain y Blaid Geidwadol wedi addo rhoi arian i Gymru i gymryd lle'r arian Ewropeaidd fydd yn mynd wedi Brexit.
Erbyn 2020 fe fyddai Cymru wedi derbyn cyfanswm o dros £5bn o arian adeileddol gan yr Undeb Ewropeaidd.
Ond mae Boris Johnson wedi dweud, er y byddai'n rhoi arian cyfatebol i'r hyn yr oedd yn dod gan yr Undeb Ewropeaidd, fe awgrymodd y byddai gan ei lywodraeth rhywfaint o ddylanwad ar sut y byddai'n cael ei wario.
Dywedodd Jeremy Hunt wrth y cyfarfod o aelodau'r blaid yng Nghanolfan yr Holl Gynghreiriau yng Nghaerdydd y byddai e, fel Prif Weinidog, yn sicrhau na fyddai Cymru ar eu colled.
Wedi'r cyfarfod bu'n gohebydd Daniel Davies yn siarad gydag un o gefnogwyr Boris Johnson, Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns AS