Taith o amgylch Llety Arall Caernarfon cyn iddo agor
Mae digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yng Nghaernarfon ddydd Iau i ddathlu carreg filltir yn hanes menter gymunedol yn y dref.
Mae Llety Arall wedi ei leoli ar Stryd y Plas, ger y castell yng Nghaernarfon, ac mae'n darparu llety ar gyfer grwpiau bychain, teuluoedd, oedolion a phobl ifanc.
Mae'r digwyddiad ddydd Iau yn nodi fod y llety bellach wedi agor saith llofft, a bod ymwelwyr eisoes wedi bod yn aros yno.
Cafodd BBC Cymru Fyw gipolwg y tu mewn i'r adeilad cyn iddo agor i'r cyhoedd.