Ffermwyr 'angen ffrwd ychwanegol o incwm'
Ffermydd defaid a gwartheg sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o dirwedd amaethyddol Cymru, ond mae arbenigwyr yn rhagweld y gallai cynnydd amlwg fod mewn cynhyrchu ffrwythau a llysiau.
Mae hyn o ganlyniad i sawl ffactor, gan gynnwys Brexit, newid hinsawdd a chynnydd ym mhoblogrwydd figaniaeth.
Ar hyn o bryd, 0.08% o dir ffermio Cymru sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer garddwriaeth (horticulture).
Dywedodd Delana Davies o Cyswllt Ffermio eu bod "wedi bod yn annog ffermwyr i feddwl am bethau ychwanegol i wneud gan fod ansicrwydd ar y gorwel".