'Gyrwyr tacsis yw llygaid a chlustiau'r gymuned'

Mae gyrwyr tacsi yn Sir Gaerfyrddin yn cael hyfforddiant i adnabod arwyddion posib bod plant ac oedolion bregus yn cael eu cam-drin mewn rhyw ffordd.

Fel rhan o'r broses ymgeisio am drwydded, mae gofyn i'r gyrwyr wylio fideo yn amlygu ffactorau sy'n achosi i rai bod yn agored i niwed gan bobl sydd am fanteisio arnyn nhw.

O ganlyniad, fe allai'r unigolion ddioddef mewn sawl ffordd - o gamdriniaeth rywiol a thrais yn y cartref i gael eu cadw fel caethweision neu eu gorfodi i gludo cyffuriau.

Mae'r hyfforddiant yn cael ei drefnu gan Gyngor Sir Gâr ar y cyd â Heddlu Dyfed-Powys, ac yn ôl y Cynghorydd Philip Hughes, sy'n gyfrifol am faterion diogelu'r cyhoedd, mae natur gwaith gyrwyr tacsi yn eu rhoi mewn sefyllfa i synhwyro os oes unrhyw beth o'i le.