Digartref yn 14 oed: 'Profiad mwyaf ofnus fy mywyd'
Bydd Llywodraeth Cymru'n gwario £3.4m ar 26 o brosiectau sy'n cynnig lloches i bobl ifanc digartref yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Ond gyda'r ystadegau mwyaf diweddar yn dangos cynnydd o 23% o fewn tair blynedd yn nifer y bobl rhwng 16 a 25 oed sy'n defnyddio gwasanaethau digartrefedd, mae un o'r elusennau sy'n derbyn cyfran o'r cyllid newydd yn dweud mai dim ond "rhan o'r ateb" ydy'r arian hwnnw.
Yn ôl yr elusen Llamau, mae angen gwario arian hefyd ar fynd at wraidd digartrefedd, ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn cefnogi cynlluniau i ddatrys y broblem.
Un sydd wedi cael cymorth gan yr elusen yw Daniel, sydd 18 oed ac yn chwilio am swydd ar ôl astudio gwyddoniaeth cyfrifiadurol yn y coleg.
Yn 14 oed, ac oherwydd sefyllfa deuluol, roedd yn ddigartref am gyfnod gan gysgu ar soffas ffrindiau a bu'n rhaid troi at yr elusen yn fwy diweddar.
Trwyddyn nhw fe gafodd help ariannol a chymorth iechyd meddwl ac maen nhw hefyd wedi sicrhau llety iddo erbyn hyn.
Cafodd hefyd ddysgu sgiliau defnyddiol fel rheoli arian a choginio.
Mae Daniel yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth ond yn cofio pa mor frawychus oedd bod yn ddigartref ag yntau mor ifanc.
"Mae wedi bod yn eithaf caled," meddai, "ond mae pethau'r well nawr."