Beicwyr dŵr 'wedi ceisio gorfodi padl fyrddiwr i'r môr'
Bu'n rhaid i fad achub atal beicwyr dŵr ar yr arfordir yng Nghriccieth oedd yn ymddangos fel petaen nhw'n targedu unigolion eraill oedd yn y môr.
Mae pobl oedd yn padlfyrddio yno ar yr un pryd wedi beirniadu tri beiciwr dŵr am yrru mewn modd bygythiol o'u cwmpas.
Dywedodd James Curless, oedd yn padlfyrddio gyda'i ffrind, bod un ohonyn nhw wedi ceisio gwthio'i ffrind i'r dŵr.
Cafodd bad achub Criccieth eu danfon mewn ymateb i'r sefyllfa ac fe wnaeth aelodau'r criw - a'r heddlu maes o law - siarad gyda'r beiciwr dŵr.
Mae fideo Paul Dixon yn dangos un o'r beiciau'n chwistrellu dŵr dros un o'r padlfyrddwyr sawl tro wrth yrru'n agos ato.