'Angen lleihau treth i fudiadau sydd â budd cymunedol'

Bydd canlyniadau "difrifol" os na fydd gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i gefnogi cynlluniau ynni hydro mewn lle erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf, yn ôl Cymdeithas Ynni Hydro Prydain.

Ar hyn o bryd mae cynlluniau o'r fath yn gallu cael cymorth i dalu cyfraddau busnes, ond dim ond nes mis Mawrth 2020 mae hynny ar gael.

Dywedodd Meleri Davies o Ynni Ogwen y dylai mudiadau "sy'n dod â budd cymunedol i ardaloedd" orfod talu llai o dreth.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod wedi cefnogi'r sector ers degawd trwy roi cymorth i brosiectau cymunedol gyda'u cyfraddau busnes.