Dean Saunders yn cael ei arestio

Mae cyn bêl-droediwr Cymru, Dean Saunders, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei ddedfrydu i garchar am ddeng wythnos am wrthod prawf anadl.

Roedd wedi cael ei arestio gan Heddlu Sir Gaer ar amheuaeth o yfed a gyrru.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi rhyddhau fideo gan yr heddlu o Saunders yn cael ei stopio, ac yna'n siarad gyda swyddogion yn swyddfa'r heddlu.