Gwrthbleidiau i wrthod cynnig Boris Johnson am etholiad

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi dweud fod y gwrthbleidiau'n bwriadu gwrthod ymgais Prif Weinidog y DU i gynnal etholiad cyffredinol ym mis Hydref.

Mae Boris Johnson wedi galw am etholiad cyffredinol ar 15 Hydref, gyda'r Deyrnas Unedig i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref.

Dywedodd Liz Saville Roberts fod y gwrthbleidiau am wneud yn siŵr fod Mr Johnson yn "gorfod cadw at y gyfraith".

"Os bydd etholiad cyffredinol, mae'n rhaid i hynny fod ar ôl tynnu'r bygythiad o adael yr UE heb gytundeb oddi ar y bwrdd," meddai.

"Does gen i ddim ffydd yn y Prif Weinidog i weithredu mewn unrhyw ffordd heblaw fel dyn sy'n mynnu cael ffordd ei hun.

"Dwi'n falch iawn ein bod ni fel gwrthbleidiau yn gweithio'n gytûn."

Ychwanegodd nad etholiad cyffredinol sy'n mynd i "ddatrys y sefyllfa echrydus 'da ni ynddi hi" ond yn hytrach refferendwm arall.