Cau mart Aberteifi yn 'golled fawr'

Mae'r farchnad da byw ola'n cael ei chynnal yn Aberteifi ddydd Llun ac mae mart Y Bont-faen ar fin cau hefyd.

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru maen nhw'n credu y bydd mwy yn dilyn yr un tranc.

Nawr mae 'na annog cydweithio rhwng ffermwyr, arwerthwyr ac awdurdodau lleol i ddiogelu'r 35 mart yng Nghymru.

Roedd y ffarmwr Elfan Owens yn mynd i'r mart yn Aberteifi yn rheolaidd ac mae'n dweud y bydd yna "golled fawr" pan fydd yn cau.