Ai dyma sut oedd llys Glyndŵr yn edrych?

Bydd gŵyl go arbennig yn cael ei chynnal dros benwythnos 14-15 Medi yng Nghorwen.

Ymhlith atyniadau Gŵyl y Fflam mae ailgread o lys Owain Glyndŵr yn Sycharth, Powys.

Gan ddefnyddio technoleg rithwir, bydd cyfle i bobl grwydro'r llys fel yr oedd yng nghyfnod y tywysog.

Mae'r ailgread o'r llys yn Sycharth wedi ei ddatblygu gan gwmni Vivid Virtual Reality, ac mae wedi ei seilio'n rhannol ar ddisgrifiad cyfoes y bardd Iolo Goch o'r llys.