Dim ffonau symudol yn 'helpu ni i ganolbwyntio'

Mae ysgol yn Llandudno yn dweud bod gwahardd ffonau symudol wedi gwella perfformiad a chanlyniadau arholiadau'r disgyblion.

Mae Ysgol John Bright wedi gwahardd ffonau symudol ers blwyddyn bellach, a dyw disgyblion ddim yn cael eu defnyddio amser egwyl na chinio chwaith.

Dywedodd Luke, Courtney a Theo bod y penderfyniad wedi cael ei groesawu gan ddisgyblion, gan eu helpu i ganolbwyntio'n well ac atal bwlio.