Ysgolion Y Wladfa yn galw am fwy o athrawon o Gymru

Mae Ysgol y Cwm yn Nhrefelin ym Mhatagonia wedi bod ar agor ers 2016, ac yn dysgu plant yn y Gymraeg a'r Sbaeneg.

Gydag adeilad newydd ar y ffordd, fe allai hyd at 150 o ddisgyblion fod yn mynychu'r ysgol erbyn y flwyddyn nesaf.

Ond i ateb y galw cynyddol am wersi drwy'r Gymraeg, mae ysgolion y Wladfa yn apelio am fwy o athrawon o Gymru i ddod draw i'w cynorthwyo nhw.