Robot yn cynorthwyo merch yn yr ysgol wedi triniaeth canser
Mae Maisy Fitzmaurice, 10 oed o Ynys Môn wedi cael ei chroesawu'n ôl i'w hysgol wedi triniaeth lwyddiannus ar diwmor enfawr.
Dychwelodd i Ysgol Gynradd Amlwch ddydd Gwener ar ôl gadael Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.
Bydd nawr yn ailgydio yn ei haddysg gyda help robot o'r enw Pam.
Dyma ddirprwy bennaeth yr ysgol, Carole Richardson i egluro sut bydd Pam y Robot yn cynorthwyo Maisy.