Owen Watkin: 'Cwpl o ddiodydd wedi'r gêm, dim byd gwirion'
Mae canolwr Cymru, Owen Watkin wedi dweud ei fod yn falch o fod wedi gallu dod ymlaen a chyfrannu i'r fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia ddydd Sul.
Dywedodd Watkin fod y chwaraewyr wedi profi "gem gorfforol" a bod llawer ohonyn nhw'n "sore" yn dilyn yr ornest.
Ychwanegodd fod y chwaraewyr wedi cael "cwpl o ddiodydd, ond dim byd rhy crazy!"
"Mae'n neis cael chwarae rhan... a chael cap arall," meddai.
Mae Cymru ar frig Grŵp D yn dilyn y canlyniad yn Stadiwm Tokyo, ac maen nhw'n wynebu Fiji yr wythnos nesaf.