Tîm Cymru'n barod er y cyfnod gorffwys
Diwrnod cyn gêm nesaf Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd mae hyfforddwr blaenwyr Cymru yn dweud bod y tîm yn barod am yr her, er bod y bwlch ers gêm Awstralia yn 10 diwrnod.
Bydd Cymru'n herio Fiji yn Stadiwm Oita yn Japan fore Mercher, eu trydedd gêm yn y gystadleuaeth.
Yn ôl Robin McBryde mae hi wedi bod yn her i bawb i gadw'r momentwm i fynd rhwng y gemau.