Brexit: Beth fydd yr effaith yn Iwerddon?
Ddydd Iau fe gyhoeddodd Boris Johnson ei fod wedi dod i gytundeb newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd ynghylch Brexit.
Ond mae'n fargen sy'n parhau i hollti barn, a bydd rhaid i'r prif weinidog aros i weld a fydd mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin yn ei gefnogi.
Un o'r prif bynciau trafod yw'r ffin yn Iwerddon - Iwan Griffiths fu draw yno i weld beth yw barn rhai o'r Cymry a'r Gwyddelod allai gael eu heffeithio.