Chwaraewyr Cymru "yn falch o'r fuddugoliaeth" dros Ffrainc
Mae tîm rygbi Cymru drwodd i rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd ar ôl trechu Ffrainc yn y munudau olaf.
Cais hwyr gan Ross Moriaty seliodd y fuddugoliaeth - ond trobwynt y gêm oedd carden goch i ail reng Ffrainc am ergyd i wyneb Aaron Wainwright.
Bydd Cymru'n wynebu De Affrica'r Sul nesa yn Yokohama ar ôl iddyn nhw guro Japan.
Bu rhai o'r chwaraewyr - Wyn Jones ac Owen Watkins - yn siarad gyda'n gohebydd Dafydd Pritchard wedi'r gêm.