'Canser y ceilliau oedd poen yn fy stumog'

Fe gafodd Matt Batten, 42, o Gaerdydd, ddiagnosis o ganser y ceilliau ar ôl mynd i'r Adran Damweiniau ac Argyfwng ddwy flynedd yn ôl.

Roedd Matt yn derbyn llawdriniaeth oherwydd fod meddygon yn amau llid y pendics.

Ar y bwrdd yn y theatr, darganfu'r meddygon mai'r hyn roedden nhw'n ei feddwl oedd y pendics oedd, mewn gwirionedd, caill heb ddisgyn a thiwmor maint pêl tenis oedd yn gwthio yn erbyn pendics Matt.

Dyma stori Matt.