Ffibrosis systig: Newyddion da i deulu

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb gyda chwmni fferyllol allai olygu bod meddyginiaethau ar gael trwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol cyn diwedd y flwyddyn i bobl sy'n byw gyda ffibrosis systig.

Mae cleifion a'u teuluoedd wedi galw am fynediad i'r cyffuriau ers amser.

Roedd Lloegr a'r Alban eisioes yn cynnig y driniaeth

Bydd y cyffuriau'n helpu'r 270 o bobl yng Nghymru sy'n byw gyda'r cyflwr gan gynnwys Imogen a'i chwaer Annabelle Fare o Gonwy.

Adroddiad Liam Evans.