Canlyniad 'gwarthus' i'r blaid Lafur
Mae Susan Elan Jones, wnaeth golli ei sedd yn yr etholiad yn Ne Clwyd yn dweud bod y canlyniadau i Lafur yn genedlaethol wedi bod yn "warthus".
Dywedodd bod angen i Lafur feddwl beth "mae eisiau bod fel plaid" a bod angen arweinydd newydd yn lle Jeremy Corbyn.
Mae'r Ceidwadwyr wedi ennill nifer o seddi yng Nghymru ac wedi cael mwyafrif clir i lywodraethu yn Nhŷ'r Cyffredin.