Ysgol Glanaethwy yn 30 oed

Mae ysgol berfformio yn y gogledd yn dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu gyda chyngerdd mawreddog i ddathlu'r pen-blwydd.

Rhentu ystafelloedd wnaethon nhw i gychwyn, mewn lleoliadau fel Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, gyda'r bwriad o gynnal yr ysgol am bum mlynedd i ddechrau.

Ond ar ôl penderfynu chwilio am rywle eu hunain, a phrynu safle ym Mharc Menai ar gyrion Bangor, daeth i'r amlwg bod y fenter wedi troi yn "brosiect am oes".

Dyma edrych yn ôl drwy'r archif a chlywed gan Cefin a Rhian Roberts y sylfaenwyr ac ambell i wyneb cyfarwydd ym myd sgrin a sain.