Cerdd a gomisiynwyd gan BBC Cymru Fyw

Fe godais babell ar y palmant heddiw

a'i hawlio'n waglaw, a'r Aes yn oer.

Roedd cytgan 'Last Christmas' drwy'r dydd yn edliw

Fod 'Dolig arall wrth ganllaw'r lloer.

Ewyllys da, haelioni'r byd,

eiliadau hud i leddfu briw.

Sŵn ffair a chwerthin a stŵr o'r stondinau,

mae'n dymor dyheu i bawb yng Nghaerdydd.

Mae côr angylion yn mwrdro carolau

rhwng nef a daear. Mae'n well bod â ffydd

y daw dieithryn â gwen wâr

ag ennyd sbâr i drugarhau.

Ar y concrid dihidio mae'r nos yn hir

Yn rhewi'r sêr yn yr awyr stond.

Ond dacw'n y düwch oleuni mor glir

dros ddinas flêr. Bryd hynny, 'does ond

y fi a 'ngweddi'n chwilio'r stryd

Am wely clyd a'r stori wir.

Osian Rhys Jones