Cynllun gofal plant am ddim yn 'wan' medd AC

Mae dryswch ynglŷn â chynllun gofal plant am ddim yn golygu bod rhai rhieni wedi derbyn biliau annisgwyl medd astudiaeth ymchwil.

Mae rhieni plant tair a phedair oed yng Nghymru sy'n gweithio yn cael 30 awr am ddim o ofal plant yr wythnos am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Ond casgliad y rhai oedd yn gwneud yr ymchwil oedd bod rhai rhieni yn defnyddio'r cyfan yn gynnar heb sylwi ac yna yn cael biliau annisgwyl am ofal plant yn ystod gwyliau ysgol.

Mae'r Aelod Cynulliad Plaid Cymru Siân Gwenllïan yn dweud bod yna broblemau gyda'r cynllun presennol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gofal plant am ddim yn cynnig cymorth i deuluoedd.