Cyflwr croen: 'Ar yr ochr meddyliol ges i ddim help'
Yn ei harddegau fe wnaeth Ffion Rees ddatblygu soriasis, ac mae'n un o tua 13 miliwn o bobl yn y DU sydd wedi dioddef o gyflyrau croen.
Ond mae arbenigwyr yn dweud nad oes digon o gefnogaeth yn cael ei gynnig i gleifion pan mae'n dod at yr ochr seicolegol o ddelio â'u cyflwr.
Yn ôl Ffion, mae angen cynnig y cymorth iechyd meddwl yna yn enwedig i bobl ifanc sydd â chyflyrau o'r fath.