'Penllanw brwydr i gael cyfiawnder i Conner'

Mae crwner wedi beirniadu'r gwasanaeth prawf yn achos dyn 18 oed gafodd ei lofruddio gan ddyn oedd ar orchymyn cymunedol ar y pryd.

Cafodd rheithfarn naratif ei chofnodi yng nghwest Conner Marshall, a dywedodd y crwner iddo gael ei ladd yn anghyfreithlon.

Roedd Mr Marshall ym mharc carafanau Trecco Bay ym Mhorthcawl yn 2015 pan gafodd ei guro i farwolaeth gan David Braddon, dyn oedd wedi troseddu sawl gwaith yn y gorffennol.

Dywedodd y crwner cynorthwyol bod gan y swyddog prawf oedd yn gyfrifol am gadw golwg ar Braddon "reolwyr tîm gwan" ac roedd y ffordd y cafodd ei goruchwylio gan ei rheolwyr yn "druenus o annigonol".

Darllenodd teulu Mr Marshall ddatganiad y tu allan i lys y crwner ar ddiwedd yr achos.