Siarad am alcohol: 'Ges i'n arestio am yfed a gyrru'

Mae dynes o Gaernarfon wedi dweud bod angen i Gymry Cymraeg ystyried eu perthynas ag alcohol a bod yn barod i siarad os ydyn nhw angen cymorth.

Fe gafodd Iola Ynyr ei harestio ar ôl cael ei dal yn yfed a gyrru - rhywbeth mae'n dweud oedd yn drobwynt er mwyn delio â'i halcoholiaeth ei hun.

Bydd mwy am hanes Iola i'w weld ar raglen 'Drych: Ffion Dafis - Un Bach Arall?' ar S4C nos Sul 19 Ionawr am 21:00.