Lauren Buxton: 'Lot ddim yn gwybod y gwir am seicosis'
Mae dynes ifanc o Abersoch yng Ngwynedd wedi disgrifio'i phrofiad o fyw gyda seicosis a'r stigma sy'n cael ei gysylltu â'r afiechyd meddwl.
Mae Lauren Buxton, 23 oed, wedi treulio cyfnodau hir yn yr ysbyty er mwyn trin ei seicosis ac afiechydon iechyd meddwl eraill.
Fe all seicosis achosi rhywun i golli cysylltiad â realiti ac mae symptomau'n gallu cynnwys clywed lleisiau, gweld pethau nad yw eraill yn eu gweld, a phrofi meddyliau paranoiaidd.
Weithiau mae pobl sy'n byw gyda seicosis hefyd yn dioddef o sgitsoffrenia ac iselder difrifol.
O ganlyniad, mae stigma yn atal nifer o ddioddefwyr fel Lauren rhag trafod y cyflwr yn agored.
Am wybodaeth ar fudiadau y gallwch chi gysylltu â nhw am gyngor a chefnogaeth, ewch i bbc.co.uk/actionline.