'Angen gwneud mwy i gefnogi iechyd meddwl ffermwyr'

Wrth i ffermwyr gael eu hannog i drafod problemau iechyd meddwl, mae elusennau yn y maes yn dweud bod angen mwy o gymorth o hyd.

Fe ddaw'r alwad honno wrth i bobl ledled Cymru gael eu hannog i drafod ar ddiwrnod "Amser i Siarad."

Mae'r ffigyrau diweddara gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod naw o bobl yn y diwydiant ffermio neu ddiwydiannau cysylltiol wedi lladd eu hunain yng Nghymru dros gyfnod o flwyddyn.

Dywedodd Endaf Griffiths bod angen gwneud mwy i gefnogi iechyd meddwl ffermwyr.