Twf 'aruthrol' yng ngêm rygbi cerdded yng Nghmru
Mae twf "aruthrol" wedi bod yng nghamp rygbi cerdded yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gydag Undeb Rygbi Cymru yn dweud ei bod yn cael "diddordeb wythnosol ar draws Cymru" gan bobl sydd eisiau chwarae'r gêm.
Mae un o sêr tîm rygbi Cymru yn y 70au - JPR Williams - yn un o'r rhai sy'n cymryd rhan.
Dau dîm rygbi cerdded oedd yn bodoli 12 mis yn ôl ond erbyn hyn mae 16, a thimau newydd hefyd yn y broses o gael eu sefydlu.