'Heb weld fy mab awtistig ers tair blynedd'
Mae teuluoedd cleifion o Gymru sy'n cael gofal arbenigol mewn uned iechyd meddwl yn Northampton wedi mynegi pryder am y sefyllfa.
Dywedodd arolygwyr Comisiwn Safonau Gofal Lloegr (CQC) ym mis Ionawr bod yna "fethiannau mynych a systemig" yn arweinyddiaeth yr elusen St Andrew's.
Mae 31 claf o Gymru'n byw yn yr uned ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i gyfeirio mwy o gleifion i bedair o wardiau'r darparwr sy'n arbenigo mewn rhoi gofal mewn achosion cymhleth.
Dywed St Andrew's Healthcare bod yna arweinwyr newydd erbyn hyn sy'n ymrwymo i sicrhau gwelliannau.
Mae Wayne Erasmus o Sir Gaerfyrddin yn honni bod yr elusen wedi symud ei fab awtistig 31 oed, Huw i'w huned yn Birmingham o uned arall yng Nghaerfyrddin yn ddirybudd, ac yna i uned yn Northampton.
Mae'n dweud nad yw wedi gweld na siarad gyda Huw ers tair blynedd.