Y llifogydd a'r difrod yng Nghymru wedi Storm Dennis

Mae nifer o gymunedau yn ne Cymru yn cyfri'r gost a chlirio'r difrod yn sgil effaith dinistriol Storm Dennis dros y penwythnos.

Cafodd nifer o drenau eu canslo a chafodd ffyrdd eu cau ar ôl i rannau o'r wlad weld gwerth mis o law mewn 48 awr.

Mae disgwyl glaw trwm eto yn rhannau helaeth o Gymru ganol yr wythnos.